Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
19 Mai 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12303
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cynnig i benodi aelodau i'r Pwyllgor Busnes
Dechreuodd yr eitem am 13.30
NNDM7687 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol a Rheol Sefydlog 11.3:
Yn penodi'r Llywydd, Lesley Griffiths (Llafur), Darren Millar (y Ceidwadwyr Cymreig) a Sian Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
2 Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.10(ii) i eitemau gael eu cymryd yn y Cyfarfod Llawn nesaf
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Cyflwynodd y Trefnydd gynnig heb rybudd o dan Reol Sefydlog 12.10(ii) i’r eitemau canlynol gael eu cymryd yn y Cyfarfod Llawn nesaf ar 26 Mai 2021:
· Cwestiynau i’r Prif Weinidog
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 9.1 i gytuno i argymhelliad y Prif Weinidog i'w Mawrhydi i berson gael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol
· Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2021
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2021
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Penodiadau i'r Cabinet
Dechreuodd yr eitem am 13.32
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 14.32 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
4 Datganiad gan y Prif Weinidog: Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
Dechreuodd yr eitem am 14.40
Am 14.55, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro am 13 munud gan y Llywydd oherwydd anawsterau technegol.
Daeth y cyfarfod i ben am 15.46
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 26 Mai 2021